Antur Ddringo ym Mae’r Tri Chlogwyn (arhosiad 1 noson)
- Gallwch reidio dros y môr pefriog ar daith gyda Nhŷ Bynciau Hardingsdown, sy’n cynnig llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol penrhyn Gŵyr.
- 10am: Dewch i Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn i gael cappuccino (neu baned!) a theisen gartref flasus.
- Treuliwch y diwrnod yn dringo creigiau ac yn abseilio yn lleoliad arobryn Bae’r Tri Chlogwyn gyda’r tîm yn Gower Adventures. Golygfeydd trawiadol a hwyl benigamp. Cofiwch ddod â’ch potel o ddŵr a’ch pecyn cinio!
- 30pm: Dewch yn ôl am hufen iâ yn Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn.
- Dychwelwch i Dŷ Bynciau Hardingsdown i gael cawod a newid eich dillad.
- Gallwch fynd am dro am 20 munud gyda’r hwyr heibio’r bryngaerydd o Oes yr Haearn i’r Kings Head yn Llangynydd, sy’n dafarn pedair seren o’r 17eg ganrif lle gallwch fwynhau pryd blasus gyda’r hwyr (gallwch ddewis o lawer o brydau cartref wedi’u gwneud o gynnyrch Cymreig!).
- Ewch yn ôl i Dŷ Bynciau Hardingsdown am arhosiad dros nos.
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!