fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gwybodaeth am Hygyrchedd

Share

Llety Hygyrch

Anogir pob llety a restrir ar y wefan hon i lanlwytho gwybodaeth am hygyrchedd ar ei dudalen. Cadwch lygad am y tab ‘Hygyrchedd’ yn y golofn ar yr ochr chwith.


 

Toiledau i’r anabl

Mae gan y rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus a gynhelir gan Gyngor Abertawe fynediad i’r anabl. Mae’r cyngor hefyd yn darparu cyfleusterau RADAR mewn 15 safle.

Mae cynllun allweddi RADAR yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n darparu mynediad i wasanaethau cyhoeddus o safon drwy ddefnyddio allwedd. Mae allweddi RADAR ar gael i’w prynu am £5 o wasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe pan ddangosir papur meddyg, neu rywbeth tebyg.


Changing Places/Lleoedd Newid

Gellir dod o hyd i doiledau Changing Places/Lleoedd Newid yn y mannau canlynol:


Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe

Mae gwasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yng ngorsaf fysus newydd y ddinas ac mae’n darparu cyfarpar symudedd i bobl sy’n ymweld â chanol y ddinas. Gall aelodau’r cyhoedd sydd ag anawsterau symudedd fenthyca cadeiriau olwyn arferol, cadeiriau olwyn â motor a sgwteri â motor o’r siop. Mae maes parcio â 30 o leoedd wedi’i greu yn arbennig i ddefnyddwyr y gwasanaeth hefyd fel y gallant barcio’u cerbydau ger y lleoliad newydd.

Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
Gorsaf Fysus Abertawe
Stryd Plymouth
Abertawe
SA1 3AR
Ffôn:  01792 461785
E-bost: llogicyfarparsymudeddabertawe@abertawe.gov.uk
Gwefan: www.abertawe.gov.uk/EiddoGwag


Llogi Cyfarpar Symudedd y Mwmbwls

Mae Mumbles Mobility yn darparu gwasanaeth llogi arbenigol i’r rheini sy’n ymweld â’r ardal.

Cwmni lleol yw Mumbles Mobility sy’n cynnig cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, cymhorthion cerdded a chyfarpar arall sy’n gallu helpu ymwelwyr i fod yn annibynnol.

Ffôn:  07707 244149
E-bost: sales@mumblesmobility.co.uk
Gwefan: www.mumblesmobility.co.uk


Traethau Hygyrch

Mae gan lawer o draethau ar Benrhyn Gŵyr fynediad da, cyfleusterau parcio i’r anabl a thoiledau hygyrch, gan gynnwys traeth Abertawe, Bae Caswell, Bae Oxwich, Bae Horton a Phorth Einon.

Gellir llogi dwy gadair olwyn traeth sy’n arnofio AM DDIM ym Mae Caswell trwy Surfability (gyda’r cyngor), archebwch yma. Ffonio 01792 635718.