Gwybodaeth am barcio, teithio a chyngerdd Tunes on the Bay
Amserau
- Dydd Gwener 1 Mai - Dydd Sul 3 Mai
- Gatiau: 12:00
- Mynediad olaf: 19:00
Perfformiad cyntaf:
- Dydd Gwener: 12:00
- Dydd Sadwrn: 12:00
- Dydd Sul: 12:00
- Yn cau: 23:00 (pob diwrnod)
Mynediad
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Bydd gan y tîm diogelwch y disgresiwn i sicrhau bod uchafswm o ddau berson dan 18 oed yng nghwmni un oedolyn cyfrifol. Dim alcohol i bobl ifanc dan 18 oed.
Beth i'w wisgo
Dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd. Cynhelir y digwyddiad hwn yn yr awyr agored ar Draeth Bae Abertawe.
Teithio
Mae prif fynedfa'r digwyddiad i'r traeth ar Mumbles Road gyferbyn â Bay View Bar & Thai Dining, SA1 3UL.
Sicrhewch fod gennych ddigon o amser i deithio a chyrraedd y safle gan y bydd gwiriadau diogelwch ychwanegol.
Cynlluniwch eich trefniadau teithio ymlaen llaw. Nid oes unrhyw waith ffordd arfaethedig yn y ddinas ar y penwythnos dan sylw. Gallwch gadw llygad am unrhyw newidiadau yma: www.roadworks.org
Cau Ffordd - Fydd rhan o Heol y Mwmbwls, rhwng Heol Guildhall Dde i Lon Brynmill, are gau dros dro i ganiatau allanfa ddiogel i'r digwyddiad. Fydd y trefn gyfreithiol rhwng 10.00PM-12.00AM a fydd y ffordd ar gau o 10.30PM. Fydd y ffordd ar agor cyn gynted fydd yr ardal yn glir.
Sut i gyrraedd
Meysydd parcio
Bydd modd parcio ar gyfer y digwyddiad yn y Rec, SA2 0AU. Y gost fydd £10 y car, y dydd. Bydd modd gadael drwy Brynmill Lane rhwng 23:00 a 00:15. Mae gan y maes parcio arwyneb graean, ond mae’r meysydd parcio ychwanegol yn laswellt. Mae mynedfa'r gyngerdd oddeutu 800 i ffwrdd ar gerdded.
Mannau Gollwng/Casglu Tacsis
Y man casglu a gollwng dynodedig yw Neuadd Brangwyn, SA1 3UR.
Bws
Nid oes unrhyw gyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwn.
Mae safleoedd bysus ar Mumbles Road ond dylech wirio gyda'ch darparwr bysus ynghylch lleoliadau casglu pan fydd Mumbles Road ar gau o 2300.
Trên
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Stryd Fawr Abertawe, oddeutu 2km i ffwrdd. Mae safle tacsis y tu allan i'r orsaf. Ewch i www.nationalrail.co.uk i wirio ymlaen llaw am unrhyw waith peirianneg arfaethedig a all effeithio ar eich taith.
Dogfennau adnabod â ffotograff
Os hoffech brynu alcohol, dewch â dull adnabod ffotograffig dilys (pasbort dilys â hologram; trwydded yrru lawn neu dros dro'r DU ar ffurf cerdyn â llun; cerdyn profi oedran â hologram wedi'i gymeradwyo gan Pass (Cynllun Safonau Profi Oedran). Mae Tunes Festivals Ltd yn gweithredu polisi gwirio oedran ‘Herio 25’.
Diogelwch a Diogeledd
Eitemau a waherddir
Ar hyn o bryd, mae'r eitemau canlynol wedi'u gwahardd
- Nifer gormodol o sigaréts
- Cynwysyddion gwydr
- Alcohol
- Arfau
- Cyffuriau heb bresgripsiwn, gan gynnwys ‘gwefrau cyfreithlon’
- Cyfarpar ffotograffiaeth neu recordio proffesiynol
- Systemau sain
- Tân gwyllt/ffaglau/canhwyllau laser
- Tuniau nwy/barbeciws
- Ffyn gwreichion
- Unrhyw fath arall o ddyfais ffrwydrol
- Baneri
- Cŵn (ac eithrio cŵn tywys/gwasanaeth)
- Beiciau
- Aerosolau
- Dronau