Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn Cydweithrediad â Freedom Leisure

Ydych chi'n adnabod hyfforddwr, tîm neu athletwr sy'n haeddu cydnabyddiaeth am ei waith caled a'i benderfyniad?  

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni'n ei hadnabod ac yn dwlu arni. Boed yn wirfoddolwyr neu'n hyfforddwyr sy'n rhoi awr ar ôl awr o'i amser yn y cefndir, yn dîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn neu'n chwaraewr sydd wedi cyflawni'r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe'n ddinas sy'n llawn pencampwyr chwaraeon.

Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure, nos Iau 2 Ebrill 2026 yn Neuadd Brangwyn. 

Bydd enwebiadau ar agor 4 Tachwedd, 2025, bydd enwebiadau'n cau ar 6 Ionawr 2026.

Freedom Leisure logo
Mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Mae 15 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:

  • Chwaraewr y Flwyddyn
    Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran. 
        
  • Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn
    Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.  
      
  • Chwaraewr Iau'r Flwyddyn
    Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 
        
  • Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd
    Yn agored i bob enwebai waeth beth fo'u hoedran.                    
     
  • Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Stowe Family Law
    Yn agored i enwebeion sy'n cystadlu ar lefel iau. Rhaid i'r enwebeion fod yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025.     
    Stowe Family Law logo
     
  • Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn
    Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys yn eu camp, gyda hanes profedig o helpu unigolion neu dimau i lwyddo - boed a yw hynny ar lefel ranbarthol, genedlaethol neu ryngwladol.     
     
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn
    Dylai enwebeion fod yn hyfforddwyr cymwys sy'n rhoi o'u hamser yn hael fel gwirfoddolwyr yn eu camp. Byddant wedi cael effaith wirioneddol trwy ysbrydoli mwy o bobl i fod yn actif a'u helpu i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymuned leol.     
     
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan EYST Wales
    Mae'r wobr hon ar gael i unrhyw wirfoddolwr anhygoel sydd wedi rhoi ei amser a'i egni i gefnogi sefydliad chwaraeon. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle. 
    Eyst logo
     
  • Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
    Yn agored i unrhyw berson ifanc 25 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 

    Mae'r wobr hon yn dathlu gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser yn hael i ennyn cariad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn eraill. Mae'r enwebeion hyn yn fodelau rôl go iawn - maent yn greadigol, yn angerddol, ac yn ymroddedig i gadw eu diddordeb. Mae'n rhaid i enwebeion gynnig help heb wobr ariannol, nad yw'n rhan o'i swydd ac nad yw'n digwydd yn ei weithle. 
     
  • Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn
    Yn agored i dimau o chwaraewyr amatur sy'n cystadlu ar lefel hŷn. Rhaid bod timau'n cynrychioli Abertawe neu eu bod wedi'u lleoli yn Abertawe. 
     
  • Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn noddir gan Route Media
    Yn agored i dimau sy'n cystadlu ar lefel iau. Mae'n rhaid bod aelodau tîm yn 18 oed neu'n iau ar 1 Ionawr 2025. 
    Route Media Logo
  • Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe
    Yn agored i dimau ysgolion cynradd ac uwchradd. Rhaid bod aelodau'r tîm wedi cynrychioli tîm yr ysgol a enwebwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025. 
    Defnyddiwch ffurflen wahanol ar gyfer pob tîm yr hoffech ei enwebu. 
    Gower College Swansea logo
     
  • Gwobr Annog Abertawe Actif

Mae'r wobr hon yn dathlu pobl neu grwpiau sydd wedi helpu eraill i wneud gweithgarwch corfforol rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025 - boed a yw hynny trwy glwb, ysgol, sefydliad, digwyddiad, rhaglen neu brosiect, neu trwy ysbrydoli eu hunain neu eu cymuned i fod yn fwy actif. 

Rydym yn chwilio am enwebeion sy'n dangos y canlynol: 

•    Annog pobl newydd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol

•    Ymdrechion i geisio cyrraedd cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu gymunedau amrywiol

•    Ysbrydoli eraill i ledaenu'r gair a hyrwyddo bod yn actif

•    Syniadau creadigol neu newydd sy'n helpu i chwalu rhwystrau i gyfranogiad

•    Gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn chwaraeon traddodiadol

•    Profiadau difyr a chynhwysol sy'n gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt - waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu

•    Unigolion sydd wedi goresgyn heriau personol i ddod yn fwy actif
 

  • Cyfraniad Oes i Chwaraeon
    Mae'r categori hwn yn cydnabod unigolion sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefydliad a/neu weinyddiaeth chwaraeon yn Abertawe dros flynyddoedd lawer. 
     
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
    Mae'r categori hwn yn cydnabod cyflawniadau sylweddol pobl ym myd chwaraeon, yn eu camp neu gampau, dros flynyddoedd lawer.