fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Gofynion mynediad COVID-19 DEPOT LIVE

GWYBODAETH BWYSIG –  DARLLENWCH YN OFALUS

Yn unol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r awdurdodau lleol, mae’n ofynnol i BOB cwsmer 14 oed ac yn hŷn sy’n dod i’n digwyddiadau ddarparu canlyniadau prawf llif unffordd negatif.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’r prawf wrth y gât. Ni ddylai mwy na 48 awr fod wedi mynd heibio ers cael canlyniad y prawf, gyda’r prawf yn cael ei wneud a’r canlyniadau’n cael eu rhoi yma: https://tinyurl.com/t3zjzzae

Os na fyddwch yn gwneud prawf neu os ydych yn darparu canlyniad positif, yna ni chaniateir i chi ddod i mewn i’r lleoliad.

Gofynnir i chi ddangos canlyniad negatif, hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu neu os oes gennych basbort brechlyn.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cael prawf ymlaen llaw gan na fydd unrhyw gyfleusterau profi ar y safle.

SUT I GAEL PRAWF LLIF UNFFORDD

  1. Gallwch archebu profion llif unffordd yma: https://tinyurl.com/3xtwu5ve
  2. Gallwch ddod o hyd i fan casglu lleol yma: https://tinyurl.com/3uk94fu6
  3. Gallwch ddod o hyd i fan casglu fferyllfa leol yma: https://tinyurl.com/3yrkxv76

 

Mae’n hanfodol nad ydych yn dod i’r lleoliad os:

  1. Ydych wedi cael prawf positif
  2. Ydych yn hunanynysu
  3. Oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau COVID-19 nodweddiadol:
    1. tymheredd uchel – mae hyn yn golygu bod eich brest yn teimlo’n boeth pan gaiff ei gyffwrdd, neu
    2. beswch newydd, parhaus – mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 achlysur neu fwy o beswch mewn 24 awr neu
    3. golli synnwyr arogli neu flasu neu brofi newid iddynt – mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer

Tracio ac Olrhain 

Bydd codau QR ar gael wrth y fynedfa lle gallwch nodi’ch presenoldeb a helpu i gefnogi tracio ac olrhain.

Rhagofalon eraill COVID-19

  • Byddwn yn darparu hylif diheintio dwylo ar draws yr holl leoliad ac wrth y fynedfa
  • Byddwn yn glanhau ac yn diheintio’r toiledau cyn, yn ystod ac ar ôl y sioeau
  • Bydd yr holl staff, y staff diogelwch a pherfformwyr yn cael eu profi cyn y digwyddiad
  • Cynllunnir y safle’n ofalus, ac ystyrir symudiad a llif pobl.
  • Bydd yr holl staff a’r staff diogelwch yn gwisgo mwgwd
  • Fel rhan o’n mesurau iechyd cyhoeddus i gadw’n staff a’n hymwelwyr yn ddiogel, bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn ardaloedd gorlawn fel wrth giwio i ddod i mewn i’r safle, ciwio ar gyfer bwyd a diod ac wrth ddefnyddio’r toiledau.

SUT GALLWCH HELPU

Rydym yn wynebu hyn gyda’n gilydd a gofynnwn i chi fod yn ystyriol o’r rheini o’ch cwmpas a’u parchu Gallwch helpu i wneud y digwyddiad hwn yn bleserus drwy:

  • Wisgo mwgwd wrth deithio i’r ŵyl ac oddi yno, yn enwedig os ydych yn defnyddio cludiant cyhoeddus.
  • Gwisgo mwgwd wrth giwio neu mewn ardaloedd prysur.
  • Dangos amynedd a charedigrwydd i bobl eraill sy’n gwylio’r gyngerdd. Efallai mai dyma yw eu digwyddiad cyntaf ers sbel – rhowch ddigon o le iddynt.

GWYBODAETH ARALL

  • Ni chaniateir ailfynediad unwaith eich bod ar y safle
  • NI chaniateir GWYDR ar y safle.
  • Dewch â cherdyn neu ddogfen adnabod (trwydded yrru neu basbort)

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth, a chofiwch aros yn ddiogel, amddiffyn eraill a chael hwyl!