Yn unol â chyngor y llywodraeth, bydd Cyngor Abertawe’n atal llawer o wasanaethau nad ydynt yn hanfodol i helpu’r gymuned i ymladd yn erbyn coronafeirws. O ganlyniad, mae’n ddrwg gennym gyhoeddi bod y digwyddiad hwn wedi’i ohirio.
11am – 4.30pm
Cymerwch gam i’r gorffennol yng Nghastell Ystumllwynarth ac ymunwch â grŵp ailgreu Gwerin y Gŵyr am arddangosiadau o sut oedd bywyd o bosib yn yr Oesoedd Canol yng Nghastell Ystumllwynarth.
Ydych chi erioed wedi ystyried sut oedd bywyd marchog? Cewch roi gynnig ar wisgo arfwisg wahanol, dysgu gorchmynion a dysgu am arfau a ffyrdd o amddiffyn o’r cyfnod.
Tâl mynediad arferol yn berthnasol.
www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth