Ymunwch â ni o 11am lle bydd Sgwâr y Castell yn llawn addurniadau, baneri a garlantau blodau Mecsicanaidd, ac wrth gwrs y lluniau penglogau enwog. Gan gynnwys sgiliau syrcas yn seiliedig ar thema, paentio wynebau, darlleniadau cardiau tarot, her cadw’n llonydd, helfa sborion penglogau a thon Fecsicanaidd fwyaf Abertawe!
Dewch i roi cynnig ar flasu’r chilli poethaf erioed a chymerwch ran yn ein cystadleuaeth limbo cyn y prif berfformiad ar y llwyfan mawr am 3.30pm – gyda’r cyfan yn gorffen gyda’r ffilm COCO gan Disney Pixar am 4pm.