Mae’r Blits Tair Noson’ o19, 20 a 21 Chwefror 1941 wedi cael ei ddisgrifio fel‘y digwyddiad mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar Abertawe’. Bydd y ddarlith ddarluniadol hon yn archwilio cyrchoedd y tair noson hyn yn fanwl, ac yn eu trafod a’u heffeithiau, yng nghyd-destun y gyfres hirach o ymosodiadau’rLuftwaffeyn erbynAbertawe rhwng Mehefin 1940 a Chwefror 1943.
I gofrestru’ch diddordeb, ebostiwch ni ar westglam.archives@swansea.gov.uk
Am ein darlithydd…Mae Dr John Alban yn uwch ddarlithydd anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes ym Mhrifysgol East Anglia ac roedd yn Archifydd y Sir Norfolk. Yn flaenorol, roedd yn Archifydd Dinas Abertawe ac, am nifer o flynyddoedd, roeddhefyd yn dysgu ac yn cyfarwyddo cyrsiau ar astudio hanes lleol, ac ar hanes Abertawe,Gŵyr a De Cymru, yn yr Adran Addysg Barhaus Oedolion yngNgholeg Prifysgol Abertawe. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Abertawe ac ef yw awdur yr astudiaeth arloesol, The Three Nights’ Blitz. Select Contemporary Reports relating to Swansea’s Air Raids of February 1941, a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasanaeth ArchifauGorllewin Morgannwg.