fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Os ydych chi’n hoff o Little Mix, byddwch chi’n dwlu ar y sioe hon! Yn cynnwys pedair cantores a dawnsiwr anhygoel sy’n cyflwyno caneuon a symudiadau dawns un o fandiau merched gorau’r DU.

Daeth Little Mix yn enwog ar ôl ennill The X Factor yn 2011, ac mae’r band wedi rhyddhau 5 albwm a sawl cân boblogaidd ers hynny, gan gynnwys pedair record sengl a gyrhaeddodd rhif 1 yn y siartiau.

Mae We Love Little Mix yn cynnwys canu byw, gwisgoedd trawiadol a sioe oleuadau a fideos syfrdanol. Mae’r sioe hon sy’n llawn egni o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys eich hoff ganeuon Little Mix megis DNA, Wings, Salute, Black Magic, Love Me Like You, Secret Love Song, Shoutout to my Ex, No More Sad Songs a llawer mwy.

Dyddiad
19 CHWE 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre