fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

7:00 pm – 9:45 pm

Cafodd Lizzy a Catherine Ward Thomas, gefeilliaid o Hampshire, eu cyflwyno i gerddoriaeth Carrie Underwood, Alison Krauss a Dixie Chicks gan gefnder o Ganada yn ystod eu harddegau cynnar, a chawsant eu swyno gan y sain. Erbyn 25 oed, roedd y ddeuawd wedi llofnodi cytundeb tri albwm gyda Sony, a nhw oedd perfformwyr canu gwlad cyntaf y DU i gyrraedd rhif 1.

Dechreuon nhw ysgrifennu eu halbwm diweddaraf, ‘Invitation’, yn ystod eu taith ddiwethaf, ac erbyn i’r cyfnod clo ddechrau roeddent wedi dechrau ar bob cân ond dim ond ambell un a gwblhawyd. Maent wedi recordio bron yr holl ganeuon gartref yn eu bwthyn ar rent dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi’i gynhyrchu o bell.

Efallai fod y cyfnod clo wedi gorfodi Ward Thomas i orffen ‘Invitation’ dan glo, ond y bwriad erioed oedd rhoi naws gartrefol i’r albwm hwn. Am y tro cyntaf ers eu perfformiad cyntaf pan oeddent yn dal i fod yn yr ysgol, bu’n rhaid i Catherine a Lizzy gynhyrchu eu halbwm mwyaf personol hyd yn hyn ar eu pennau eu hunain.

Gallwch weld y chwiorydd yn Neuadd Brangwyn ym mis Tachwedd.

Tocynnau: £25.31

Dyddiad
25 TACH 2021
Lleoliad
Neuadd Brangwyn