Dyddiad: Nos Fercher 8 – nos Sadwrn 11 Awst
Amser: Drysau’n agor am 5.30pm, perfformiad am 7.00pm
Lleoliad: Canolfan Fferm Clun
Mae Canolfan Fferm Clun yn falch o gyflwyno fersiwn awyr agored Theatr Silures o gampwaith Dylan Thomas, ‘Under Milk Wood’. Dewch i wrando ar eiriau gwefreiddiol Dylan Thomas wrth i’r cwmni theatr blaengar hwn, sy’n cynnwys yr elfennau hanfodol yn unig, fynd â chi i fyd lliwgar Llareggub. Cynhelir y perfformiad hwn yn yr awyr agored. Gwisgwch ddillad sy’n addas ar gyfer y tywydd! Darperir cadeiriau, neu gallwch ddod â’ch blancedi eich hun. Bydd bar a fydd yn cynnig alcohol, diodydd meddal a byrbrydau ar agor o 5.30pm, ac ar ôl y perfformiad hefyd.
Tocynnau ymlaen llaw £11 (consesiwn £10)
Tocynnau wrth y drws £13 (consesiwn £12)
Prynwch eich tocynnau ymlaen llaw yn: www.clynefarm.com/tickets
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 403333