I ddathlu 50 mlynedd o Tubular Bells, bydd y gampwaith eiconig yn cael ei pherfformio’n fyw gyda band llawn yn Arena Abertawe y Gwanwyn nesaf, wedi ei gynnal a’i drefnu gan gydweithredwr hir dymor Oldfield, Robin Smith.
Tubular Bells oedd yr albwm stiwdio gyntaf gan yr offerynnwr, cyfansoddwr a chanwr o Loegr Mike Oldfield, wedi ei greu yn 1971 a’i rhyddhau o’r diwedd yn 1973. Dim ond 17 mlwydd oed oedd Oldfield pan ddechreuodd gyfansoddi’r gerddoriaeth, fe recordiodd a chwaraeodd bron i’r holl offerynnau ar yr albwm. Enillodd glod byd-eang pan ddefnyddiwyd y thema agoriadol ar gyfer trac sain ffilm arswyd, The Exorcist ac aeth ymlaen i fod yr albwm offerynnol a werthodd fwyaf erioed.
Yn ymasiad beiddgar a blaengar, mae Tubular Bells yn daith drwy gerddoriaeth glasurol, jazz, gwerin, roc prog ac electroneg.
TOCYNNAU O £29.65 (+ £3.80 FFI TRAFODIAD)