Ahoi, bois bach! Ymunwch â Jim Hawkins ar ei daith i isfyd tywyll môr-ladron a thrysor cudd yn addasiad bywiog Theatr Quantum o nofel glasurol Robert Louis Stevenson, Treasure Island.
Dewch â phicnic a rhywbeth cyfforddus i eistedd arno ar dir Castell Ystumllwynarth am brynhawn o adloniant cyffrous i’r teulu ddydd Iau 12 Awst 2021.
Gallwch archebu’ch tocynnau ar gyfer y ddau berfformiad gyda’r sicrwydd y byddant yn cydymffurfio’n llawn ag arweiniad Coronafeirws Llywodraeth Cymru sydd ar waith ar adeg y perfformiad.
Cynhelir Theatr Awyr Agored ar dir Castell Ystumllwynarth, gan ddarparu lleoliad awyr agored gyda digonedd o le i gadw pellter cymdeithasol os ydych chi am wneud hynny. Caiff pwyntiau cyswllt a thoiledau eu glanhau’n rheolaidd, a bydd pwyntiau diheintio dwylo hefyd ar gael. Gallwch hefyd ymlacio gan wybod pe bai rheoliadau’n newid ac na ellir cynnal y digwyddiad, rhoddir ad-daliad llawn.
Rydym yn ymuno â Hawkins ar ôl i’w fywyd newid yn llwyr wrth i’r hen forwyr Billy Bones a Black Dog herio’i gilydd yn nhafarn ei dad, yr Admiral Benbow.
Gyda map o’r ynys lle claddodd y môr-leidr enwog, Capten Flint, ei drysor, mae Hawkins yn hwylio ar yr Hispaniola i chwilio am gelc y môr-leidr. Fodd bynnag, wrth iddo ddechrau ei daith ar yr Hispaniola, mae Jim yn dod yn ymwybodol bod pobl eraill yn gwybod am fodolaeth y map hwn…
Mae dehongliad newydd Michael Whitmore o’r stori glasurol hon, sydd wedi’i addasu ar gyfer theatr awyr agored gyda digon o fôr-ladron, cynnwrf a thwyll, yn llawn egni ac antur gyffrous i’r holl deulu.
Peidiwch â cholli’r perfformiad difyr hwn o stori fythol, prynwch eich tocynnau nawr!
Cyflwynir cynhyrchiad Theatr Quantum o Treasure Island i chi gan Gyngor Abertawe.
Bydd y perfformiad yn dechrau ar dir Castell Ystumllwynarth am 3pm ddydd Iau 12 Awst. Bydd y perfformiad yn para am 1 awr 40 munud, gan gynnwys egwyl fer 15 munud.
Gallwch arbed arian a sicrhau’ch lle drwy archebu’ch tocynnau ymlaen llaw:
Amodau a Thelerau’r Theatr Awyr Agored
Sesiwn Holi ac Ateb Theatr Awyr Agored
“Fifteen men on the dead man’s chest
Yo-ho-ho, and a bottle of rum!
Drink and the devil had done for the rest
Yo-ho-ho, and a bottle of rum.”
Mae Home From Home Original Cottages yn cynnig amrywiaeth eang o fathau o eiddo mewn rhai o’r lleoliadau harddaf a mwyaf arobryn ym Mae Abertawe.
Dewiswch o’u detholiad gwych o fythynnod gwyliau neu fflatiau glan-môr cyfoes, eang gyda golygfeydd panoramig anhygoel. Maent hefyd yn cynnig dewis trawiadol o dai teuluol a filas.
Pa fath bynnag o wyliau rydych chi’n dwlu arnynt, mae gan Home From Home Original Cottages yr hyn y mae ei angen arnoch – lle gwych yn y man iawn!