fbpx
Teithiwch i Abertawe gyda GWR a gallwch arbed dros 50% ymlaen llaw.
Teithiwch ar drên.

Mae’r seren boblogaidd Tom Grennan, a enwebwyd ar gyfer gwobr Ivor Novello a BRIT, wedi cyhoeddi sioe enfawr ym Mharc Singleton Abertawe ar 23 Gorffennaf 2023.

Mae eisoes wedi rhyddhau pedwar sengl a gyrhaeddodd y 10 uchaf yn siartiau’r DU. Roedd dwy o’i ganeuon poblogaidd, ‘Little Bit of Love’ a ‘By Your Side’ wedi gwerthu miliynau o gopïau ac mae’r ddwy ymysg y tair cân a chwaraewyd fwyaf yn 2021 . Daw’r ddwy gân o albwm cyntaf Tom a gyrhaeddodd brig y siartiau, ‘Evering Road’. Ac mae tair o’i ganeuon o 2022, ‘Remind Me’, ‘Not Over Yet’ gyda KSI a ‘Lionheart (Fearless)’ gyda Joel Corry wedi cyrraedd rhestr Caneuon Mwyaf Poblogaidd 2022 gan The Official Big Top 40. Gydag albwm newydd hir-ddisgwyliedig ar ddod, sef ‘What Ifs & Maybes’ a fydd yn cael ei ryddhau ar 9 Mehefin 2023, mae’r artist Prydeinig newydd bellach wedi cyrraedd statws prif act.

Roedd ei berfformiad i dorf o 30,000 yn ystod gŵyl Godiva yn nodi diwedd tymor o berfformiadau byw ar raddfa fyd-eang dros haf 2022. Gan gynnwys taith o ogledd America lle gwerthwyd pob tocyn a dwy daith o Awstralia, perfformio ar brif lwyfan Gŵyl Ynys Wyth, cyngerdd croeso’n ôl i 15,000 o bobl ym Mharc Bedford, Penwythnos Mawr Radio 1 y BBC, Dreamland ym Margate, TRNSMT, Kendall Calling, Boardmasters a mwy.

Gan siarad am yr albwm newydd, meddai Tom, “Enw’r albwm newydd yw What Ifs & Maybes. Mae’n trafod dilyn eich greddf, nid eich pen, oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd. Does dim ofn neidio i mewn i’r anhysbys arna’ i – oherwydd mae’n gyffrous! Mae angen rholi’r dis mewn bywyd, a byw eich bywyd gorau heb unrhyw beth i’w golli. Dwi mewn man creadigol newydd, a dwi’n gwybod fy mod i bellach wedi datblygu’n yr artist dwi am ei fod. Dwi mor gyffrous am y sioeau hyn, fy sioeau mwyaf hyd heddiw. Dwi’n edrych ymlaen at fynd allan a chwarae’r caneuon newydd hyn i bawb. Bant â ni!”

Gatiau’n agor am 5pm. Rhaid i’r rheini dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn dros 18 oed. Dim mwy na 3 pherson dan 16 oed i un oedolyn.

Tocynnau

Beth am dretio’ch hun i docyn lletygarwch?

Mae tocyn lletygarwch yn cynnwys: un tocyn sefyll mynediad cyffredinol, mynediad i far preifat lle byddwch yn derbyn diod am ddim wrth i chi gyrraedd, yn ogystal â mynediad i doiledau arbennig i ffwrdd o’r torfeydd cyffredinol. Sylwer: nid oes ardal wylio ddynodedig ar gael yn yr ardal letygarwch, a does dim sicrwydd y byddwch yn cael golygfa o’r llwyfan o’r ardal hon.

Tocyn lletygarwch

Hygyrchedd

Bydd llwyfan gwylio hygyrch. Gellir archebu tocynnau ar gyfer hwnnw yma.

 

Dyddiad
23 GOR 2023
Lleoliad
Singleton Park
Archebwch docynnau