fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

7:30 pm – 9:45 pm

Gwisgwch eich gwregys amdanoch a pharatowch at reid syfrdanol.

Mae Tim Peake yn ofodwr gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Ym mis Rhagfyr 2015, ef oedd y gofodwr Prydeinig cyntaf i ymweld â’r Orsaf Ofod Ryngwladol er mwyn cerdded yn y gofod (a rhedeg marathon!) wrth droi o gwmpas y Ddaear.

Nawr, ymunwch ag ef ar daith epig a chyffrous i’r Orsaf Ofod Ryngwladol fel rhan o’i daith gyntaf o gwmpas y DU.

Tim fydd eich tywysydd personol drwy fywyd yn y gofod, a chewch weld ffotograffau aruthrol a darnau o ffilm anhygoel nad oes neb wedi’u gweld o’r blaen. Mae’n gipolwg hynod ddiddorol o sut beth yw bod yn ofodwr; o’r hyfforddiant i’r lansio, cerdded yn y gofod i ddychweliad, bydd Tim yn datgelu’r cyfrinachau, yr wyddoniaeth a’r rhyfeddodau pob dydd ynghylch sut a pham y mae bodau dynol yn teithio i’r gofod.

Bydd yn rhannu ei frwdfrydedd am awyrennu, fforiad ac antur, a dyma’ch cyfle chi i dreulio noson gydag un o ofodwyr byw mwyaf y byd ac ailddarganfod rhyfeddod y lle sy’n gartref i ni.

Tocynnau: £ 28.50 – £32.50

Dyddiad
16 TACH 2021
Lleoliad
Neuadd Brangwyn