Paratowch bicnic a dewch i ymlacio yn lleoliad darluniadol tir Castell Ystumllwynarth i fwynhau noson o theatr fyw.
Dewch i ddianc i’r awyr agored yr haf hwn gyda Rapunzel – cynhyrchiad cyffrous a thwymgalon am ferch sy’n dyheu am fod yn rhydd o’i charchar gorfodol ac archwilio’r byd tu allan.
Gyda gwrachod cas, ellyllon cariadus a Thywysog golygus, a milltiroedd o wallt aur, Rapunzel yw’r cynhyrchiad perffaith ar gyfer pob oedran. Mae addasiad “hynod dwp” (The Stage) IKP o Rapunzel yn dod â’r stori tylwyth teg glasurol yn fyw gyda digonedd o hiwmor slapstic corfforol, pypedwaith a digon i gadw’r oedolion yn hapus hefyd!
Gallwch archebu’ch tocynnau ar gyfer y ddau berfformiad gyda’r sicrwydd y byddant yn cydymffurfio’n llawn ag arweiniad Coronafeirws Llywodraeth Cymru sydd ar waith ar adeg y perfformiad.
Cynhelir Theatr Awyr Agored ar dir Castell Ystumllwynarth, gan ddarparu lleoliad awyr agored gyda digonedd o le i gadw pellter cymdeithasol os ydych chi am wneud hynny. Caiff pwyntiau cyswllt a thoiledau eu glanhau’n rheolaidd, a bydd pwyntiau diheintio dwylo hefyd ar gael. Gallwch hefyd ymlacio gan wybod pe bai rheoliadau’n newid ac na ellir cynnal y digwyddiad, rhoddir ad-daliad llawn.
Yna bydd tocynnau ar gael wrth y gât
y gât
Amodau a Thelerau’r Theatr Awyr Agored
Sesiwn Holi ac Ateb Theatr Awyr Agored