Byddwch yn barod ar gyfer profiad mwyaf iasol y flwyddyn.
Yn fflachio o fewn llinell y coed, mae lamp unigol yn llosgi yn un o ffenestri lan llofft tŷ sydd wedi bod yn wag ers amser. Diflaniad plentyn ifanc yw’r hyn sy’n arwain at Alice Beaumont yn cael ei thaflu i’r lle diarffordd hwn, sydd dan len o gyfrinachedd ac wedi’i anesmwytho gan sibrydion am orffennol arswydus. Ai’r tŷ ei hun sy’n cadw cyfrinach neu ydy Alice wedi datgloi rhywbeth mwy cythryblus fyth?
Edrychwch dros eich dwy ysgwydd a cheisiwch ddianc rhag gafael…The Wicked Lady.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys eiliadau o sioc ac arswyd eithafol.