fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r sioe hon, y mae dros filiwn o bobl wedi’i gweld, bellach yn ei 16eg flwyddyn o deithio o amgylch y DU.

Nid yw’n syndod bod y sioe hon yn un o’r straeon llwyddiant mwyaf yn hanes theatr Prydain.

Dewch i ddathlu’n sioe newydd sbon ar gyfer 2023 gyda chaneuon enwog fel ‘Reach Out’ ac ‘Ain’t No Mountain High Enough’ wrth i ni gyflwyno parti Motown mwyaf y flwyddyn.

Paratowch ar gyfer yr holl ganeuon poblogaidd, y gwisgoedd disglair, y dawnsiau egnïol a cherddoriaeth o’r radd flaenaf yn y gyngerdd fyw syfrdanol hon.

Cewch glywed y clasuron fel ‘Loco Down in Acapulco’ wrth i chi fynd ar daith drwy amser gyda holl glasuron Motown gan artistiaid fel Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, The Four Tops, Martha Reeves, The Jackson 5, Smokey Robinson a llawer, llawer mwy.

Dathlwch gerddoriaeth cenhedlaeth gydag un noson arbennig iawn, sef The Magic of Motown!

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau,/cwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.

Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.

Dyddiad
03 TACH 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
31.50