Gwelwyd gan mwy na 1 miliwn o bobl dros y byd!
Gwahoddir y rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth i barti mwyaf y flwyddyn wrth i sioe ddiatal The Magic of Motown gyrraedd! Mae wedi’i gweld gan dros filiwn o bobl, does dim syndod bod y sioe yn un o’r llwyddiannau mwyaf yn hanes y theatr ym Mhrydain, gan hyd yn oed berfformio fel gwesteion arbennig yn y parti ar ôl y Royal Variety Performance yn 2016.
Paratowch eich hun ar gyfer 40 o glasuron Motown, gwisgoedd disglair, dawnsio gwych a dawn gerddorol ragorol yn y gyngerdd fyw syfrdanol hon.
Dathlwch gerddoriaeth cenhedlaeth wrth i ganeuon bythol Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, The Four Tops, Martha Reeves, Jackson 5, Lionel Richie, Smokey Robinson a llawer mwy gael eu hail-greu ar eich cyfer gan gast a band hynod ddawnus.
Mae’r gyngerdd syfrdanol hon yn eich tywys ar daith gerddorol hudol drwy eich hoff ganeuon, gan gynnwys: Ain’t No Mountain, Signed Sealed Delivered, Grapevine, Get Ready, Dancing In The Streets, My Girl, Blame It On The Boogie, Uptight, Endless Love, My Cherie Amor, All Night Long, Heatwave a llawer mwy.
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.