The Luna Cinema yn cyflwyno:
Dydd Mercher 11 Medi:
A Star is Born (2018 | 15)
Dydd Iau 12 Medi:
Bohemian Rhapsody (2018 | 12A)
Drysau’n agor 6pm | Ffilm 7.30pm
Mae cael Castell Ystumllwynarth fel cefndir mawreddog yn golygu noson fythgofiadwy o sinema o dan y sêr yr haf hwn gyda The Luna Cinema.
Gyda golygfeydd hyfryd yn edrych dros Fae Abertawe, bydd Castell Ystumllwynarth yn cynnal dwy noson o ffilmiau clasurol. Bydd pobl sy’n dwlu ar sioeau cerdd yn sicr yn cydganu â’r caneuon o’r sioeau cerdd gorau, gydag A Star Is Born, sy’n dilyn stori serch rhwng cerddor profiadol, Jackson Maine, a pherfformwraig adfydus, Ally, ac yna’r ffilm arobryn, Bohemian Rhapsody, sy’n cynnwys perfformiad gan Rami Malek a enillodd wobr Oscar.
Fel bob amser, manteisiwch ar y bar llawn a’r bwyd stryd o safon sydd ar gael ar y safle, neu dewch â phicnic.
Mae lleoedd yn brin ac mae’n rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw, felly ewch ati i gynllunio’r noson mas gyda’ch cariad neu casglwch eich ffrindiau at ei gilydd a pharatowch am noson wych o sinema o dan y sêr.
Am fwy o wybodaeth ewch i thelunacinema.com/oystermouth-castle-swansea