Paratowch at hediad fwyaf cyffrous eich bywyd wrth i 16 o ferched sioe fwyaf cyfareddol (sy’n digwydd bod yn ddynion!) eich cludo i fyd newydd o gyrchfannau caneuon a dawns llawn diamante disglair.
Bydd cynnwrf comedi’n bendant yn rhan o’r hediad hwn wrth i’r criw caban, Ole a Jamie John, (Miss D.Q. unig frenhines drag y DU sy’n gorrach) eich tywys i’r parti mwyaf yn y dref!
Bydd eiconau pop gan gynnwys …Cher…Tina Turner…Calvin Harris…Alexandra Burke…The Village People…Shania Twain a llawer mwy yn peri i chi ddawnsio yn yr eiliau.
Bydd eich adloniant ar y daith yn ail-greu eiliadau hudol o Las Vegas i Las Palmas lle bydd y Moulin Rouge yn cwrdd â Madonna, a bydd dros 400 o wisgoedd trawiadol.
Felly gwisgwch eich colur mwyaf lliwgar, yfwch eich diod a dawnsiwch drwy’r nos! Mae’n amser mynd MAS MAS!
Archebwch eich tocynnau a dewch i brofi’r FLIGHT OF FANTASY… Sioe drawiadol newydd ar gyfer 2020 gan The Ladyboys Of Bangkok!