fbpx
Hoffem eich croesawu yn ôl i'n lleoliadau diwylliannol
Rhagor o wybodaeth

5 Medi 2021, 7.30pm – 10.00pm

Bydd The Illegal Eagles, sy’n dathlu cerddoriaeth y band roc o Arfodir y Gorllewin, yn ymweld â Neuadd Brangwyn am y tro cyntaf, gan ddod â’u medrusrwydd cerddorol nodedig, eu sylw manwl i fanylder a’u dawn arddangos anhygoel gyda nhw.

Bydd adran llinynnau Sinfonietta De Cymru ac Eden Horns yn ymuno â’r band ar y llwyfan, ac yn rhoi perfformiadau unigryw o ganeuon poblogaidd The Eagles. Bydd cyfeiliant y gerddorfa fyw yn cynnig perfformiad unigryw sy’n debyg iawn i’r gwreiddiol.

Mae’r sioe arobryn hon yn cynnwys caneuon gorau’r Eagles gan gynnwys ffefrynnau megis ‘Hotel California’, ‘Desperado’, ‘Take It Easy’, ‘New Kid In Town’, ‘Life In The Fast Lane’ a llawer mwy…

Tocynnau: £32.00

Dyddiad
05 MED 2021
Lleoliad
Neuadd Brangwyn
Archebwch docynnau