Mae The History of Rock yn ddathliad o gerddoriaeth roc drwy’r degawdau. Noson fythgofiadwy a fydd yn eich cludo drwy oes aur cerddoriaeth roc! Gyda cherddoriaeth gan artistiaid fel Led Zeppelin, Cream, Guns n Roses, AC DC, Queen a llawer mwy.
Dewch i ailddarganfod cerddoriaeth roc a rôl y 1950au, cychwyniad cerddoriaeth roc y 60au, a roc clasurol y 70au a’r 80au.
Sioe na ddylai unrhyw un sy’n dwlu ar roc ei cholli! Dewch i brofi’r gerddoriaeth eiconig hon yn cael ei pherfformio gan fand byw sy’n cynnwys rhai o gerddorion a pherfformwyr gorau’r byd, fideos gweledol gwreiddiol o’r bandiau a’r artistiaid dan sylw yn ogystal â llwyfannu a goleuo cyngerdd o safon.
Dewch i ail-fyw’r caneuon roc gorau erioed gyda The History of Rock.
09/11/2023
7:30 pm – 9:45 pm
£25 & £29