fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae The Elvis Years yn gynhyrchiad cerddorol rhagorol sy’n dod â hanes anhygoel a chyfareddol ‘brenin roc a rôl’, Elvis Presley, i’r llwyfan.

Ymunwch â Mario Kombou (Jailhouse Rock, West End), ein band llawn sêr a’n cantorion arobryn ar gyfer taith fythgofiadwy o dros 50 o ganeuon poblogaidd sy’n ymestyn dros dri degawd – o ganeuon cynnar Sun Records i berfformiadau ysbrydoledig Las Vegas, drwy The Jordanaires, blynyddoedd y fyddin, golygfeydd o raglen deledu arbennig 68 a ffilmiau Hollywood wedi’u hail-greu mewn ffordd wreiddiol.

Gyda deunydd ffilm hiraethus a thros deuddeg o newidiadau gwisgoedd, mae’r cynhyrchiad disglair hwn, sy’n ddwy awr o hyd, yn cynnwys caneuon adnabyddus megis That’s Alright Mama, Suspicious Minds, It’s Now or Never, Heartbreak Hotel, Blue Suede Shoes, Hound Dog, Love Me Tender, If I Can Dream a llawer mwy!

Dyddiad
23 ION 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre