Mae Sweeney Entertainments yn falch o gyflwyno…
Mae’r Bohemians wedi bod yn talu teyrnged i fand roc mwyaf theatraidd a dramatig y byd, Queen, ers 1996, ac yn y cyfnod hwnnw, mae wedi cael effaith enfawr ar gynulleidfaoedd ar draws y byd.
Mae personoliaeth a phranciau llwyfan pryfoclyd y prif leisydd, Rob Comber, ynghyd â’i berfformiad annaearol o realistig yn ei wneud yn ddewis perffaith ar gyfer ‘Freddie’, gyda’r olwg a’r persona llwyfan.
Mae Christopher Gregory, chwaraewr gitâr trydan sy’n dod â’r holl hyfedredd angenrheidiol i berfformio’n argyhoeddiadol fel Brian May, yn aelod o’r band hynod dalentog sy’n ymuno â Rob ar y llwyfan. Mae eu sylw i fanylder yn wirioneddol drawiadol.
Am dros bedwar degawd mae miliynau o gefnogwyr wedi bod yn mwynhau cerddoriaeth Queen. Cyhoeddodd y band gyfanswm o 18 o albymau rhif un, 18 o recordiau sengl rhif un a 10 DVD rhif un, ac amcangyfrifir ei fod wedi gwerthu rhwng 150 miliwn a 300 miliwn o recordiau.
Mae sioe The Best of Queen yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon mwyaf poblogaidd y band yn ogystal â’i glasuron mwyaf eiconig, gan greu sioe lwyfan fyw sydd wirioneddol yn cyfleu hanfod y band rhagorol hwn o Brydain.