Mae Respect: The Aretha Franklin Songbook yn gyngerdd fyw anhygoel sy’n talu teyrnged i Frenhines Miwsig yr Enaid gyda phregeth galonogol sy’n dathlu ei bywyd a’i chaneuon enwocaf! Yn cynnwys lleisiau o’r radd flaenaf Stacy Francis, Cleopatra Higgins, Tanya Edwards a Cleo Stewart, i gyfeiliant band byw a chôr gospel.
Bydd y gyngerdd fyw drawiadol hon gan grëwr y sioe hynod lwyddiannus o’r West-End, Thriller Live, ac a gyfarwyddwyd gan Racky Plews (Footloose, American Idiot), a’r sgript a’r coreograffi gan Tiffany King, yn mynd â chi ar daith gerddorol hiraethus â thros 24 o ganeuon enwocaf Aretha Franklin gan gynnwys Think, I Say A Little Prayer, Do Right Woman, Bridge Over Troubled Water, Natural Woman, Son Of A Preacher Man, Respect a llawer mwy!