fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Date/Time:
Date(s) – 21/04/2023
7:30 pm – 9:30 pm

Ives Central Park in the Dark

Ives The Unanswered Question

Szymanowski Concerto i’r Ffidil Rhif 1

Adams Harmonielehre

FFWDANUS | EGNÏOL | GOLEUOL

Dychmygwch y cyfnod cyn ceir modur, wrth eistedd ar fainc yn Central Park ar noson o haf… clywid sŵn y nos a distawrwydd y tywyllwch, sŵn cantorion stryd, tylluanod nos, ragtime y piano, bandiau stryd pres a hyd yn oed injan dân. Dyma’r sŵn y mae Charles Ives yn ei greu yn ei ddarn Central Park in the Dark. Mae’n waith partner y darn ‘Two Contemplations’, mae The Unanswered Question yn llai adnabyddus ond heb fod yn llai ingol. Mae’r gwaith rhyfedd hwn yn aml yn cael ei ddisgrifio fel athroniaeth a fynegir mewn cerddoriaeth, ac mae’n delio â’r “cwestiwn parhaol ynglŷn â bodolaeth”, ac mae’n gwrthbwyso tri grŵp o offerynnau nad yw eu haenau byth yn cael eu cysoni’n llwyr.

Mae arddull gerddorol rymus ac eclectig Szymanowski yn gwrthod tonyddiaeth draddodiadol ac estheteg ramantus; ac yn ogystal â cherddoriaeth foethus, lesmeiriol a storïol sy’n rhaeadru, yn ildio i uchelfannau disglair y ffidil unawdol yn ei Goncerto Cyntaf i’r Ffidil. Gyda symudiadau cyflym yn archwilio tirweddau ecsotig, mae’r gwaith yn cael ei lunio gan raddfeydd dwyreiniol ac ebychiadau cerddorfaol bywiog, gydag arlliw o ddirgelwch a’r blues. Bydd y fiolinydd o Dde Korea, Bomsori Kim, yn ymuno â’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft a BBC NOW ar gyfer y concerto disglair hwn.

Mae llong enfawr yn codi oddi ar wyneb Bae San Francisco ac yn hyrddio’i hun i’r awyr fel roced o blaned Sadwrn… dyma’r freuddwyd a ysbrydolodd Harmonielehre John Adams. Mae’n llawn syrpreis, ond bob amser yn hudolus yn ei soniarusrwydd bywiog a disglair. Yn sicr mae’r gwaith mynegiannol hwn yn llawn egni, ac yn cael ei sbarduno gan ei symudiad harmonig Minimalaidd.

Dyddiad
21 EBR 2023
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
10