Mae sioe arbennig, arobryn Tango Fire yn dychwelyd i’r DU.
Yn cynnwys y sêr tango Archentaidd enwog, German Cornejo a Gisela Galessi, a fydd yn ymuno â chast o ddawnswyr tango gwych gan gynnwys pencampwyr Tango y byd, dyma daith gyffrous a ffrwydrol drwy hanes Tango Archentaidd go iawn.
Bydd chwe chwpl anhygoel yn arddangos eu troedwaith cyflym a’u troelliadau tynn drwy ddangos eu dulliau unigryw yng nghwmni Pedwarawd Tango Fuego a fydd yn perfformio cerddoriaeth rhai o gyfansoddwyr enwocaf tango, megis Piazzolla, Pugilese a Gardel yn fyw ar y llwyfan yn y sioe gyffrous hon a fydd yn siŵr o’ch cyffroi.
‘Sensual, erotic, authentically Argentinian.’ The Telegraph
‘Tango at its sexiest and most stupendous.’ Dance Critics
‘Pure velocity and plenty of sizzle.’ Evening Standard