Sbaeneg gyda is-deitlau
Yng nghanol y saithdegau, mae dyn rhyfedd ar y naw yn cyrraedd dinas ranbarthol gysglyd. Mewn bwyty, mae’n dechrau pardduo Claudio, cyfreithiwr o fri, heb unrhyw reswm yn y byd yn ôl pob golwg. Caiff y dieithryn ei fychanu a’i daflu mas. Yn ddiweddarach y noson honno, daw’r dieithryn benben â Claudio a’i wraig, a chawn ein tywys ar drywydd marwolaeth a chyfrinachau.
‘Embrace this little masterpiece before it disappears.’ EVENING STANDARD