Gyda Joe Pasquale, Sarah Earnshaw a Susie Blake.
Bydd damweiniau doniol a thrychinebau DIY yn eich diddanu wrth i sioeSome Mothers Do ‘Ave ‘Em fynd ar daith gyda Joe Pasquale (New Faces, I’m a Celebrity, Spamalot, The Producers) fel y cymeriad hoffus sy’n dueddol i gael damweiniau, Frank Spencer.
Mae gan Betty newyddion cyffrous ar gyfer Frank, ond mae wedi ymgolli yn ei enwogrwydd newydd fel consuriwr. Wrth i westeion gyrraedd i gael cinio ac wrth i’r dryswch ddechrau, mae’n ymddangos mai camddealltwriaethau comig sydd ar y fwydlen.
Bydd Susie Blake (Coronation Street, The Victoria Wood Show, Blithe Spirit) yn chwarae rôl ei fam yng nghyfraith feirniadol a Sarah Earnshaw sy’n chwarae rhan ei wraig hynod amyneddgar, Betty.
Mae Some Mothers Do ‘Ave ‘Emyn seiliedig ar y comedi deledu boblogaidd o’r 1970au gan Ray Allen ac fe’i cyfarwyddir gan y cyfarwyddwr arobryn Guy Unsworth. Cewch noson allan wrth eich bodd wrth wylio’r sioe ddifyr a hiraethlon hon.
Mae’n siŵr y bydd yn hynod boblogaidd!