fbpx
Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
26 - 27 Hydref

Ymgollwch mewn diwylliant sglefrfyrddio rhyngwladol yn Oriel Gelf Glynn Vivian ar gyfer ffotograffiaeth sglefrfyrddio ôl-syllol Skin Phillips.

Yn yr arddangosfa hon o’i waith ffotograffiaeth sy’n croesi degawdau a gwledydd ac yn rhychwantu ei amser yng nghylchgrawn Transworld Skateboarding San Diego, o Los Angeles i Abertawe, gallwch ddarganfod egni a symudiad y diwylliant sglefrfyrddio.

Yn y delweddau dylanwadol hyn a’r ffotograffau nas gwelwyd erioed o’r blaen, mae Skin yn archwilio datblygiad y diwylliant sglefrfyrddio. Gallwch fwynhau ei luniau hŷn ochr yn ochr â ffotograffau newydd eu comisiynu o fyd sglefrfyrddio presennol Abertawe, ac ymuno â Skin Phillips ar gyfer gweithdai drwy gydol Penwythnos Celfyddydau Abertawe.

Gweithdai: 

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno arddangosfa o waith yr artist Skin Phillips, ffotograffydd sydd wedi bod yn ganolog i’r byd sglefrfyrddio wrth iddo ddatblygu o fod yn fudiad dan ddaear i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd.

Bydd yr arddangosfa gyffrous hon, sydd ar agor o 13 Medi i 5 Ionawr yn arddangos ffotograffiaeth enwog Phillips, o Abertawe i Los Angeles, sy’n dangos rhai o’r eiliadau mwyaf diffiniol yn hanes sglefrfyrddio.

Mae Skin Phillips, sy’n adnabyddus am ei waith gyda’r cylchgrawn o San Diego, Transworld Skateboarding wedi bod yn ffigur canolog wrth ddogfennu’r byd sglefrfyrddio. Mae ei ffotograffiaeth yn cyfleu adrenalin ac artistiaeth sglefrfyrddio ond mae hefyd yn dangos y newid diwylliannol o isddiwylliant dan ddaear i ffenomen fyd-eang. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys detholiad o luniau mwyaf dylanwadol Phillips, yn ogystal â lluniau nas gwelwyd o’r blaen a deunydd archifol sy’n rhychwantu degawdau o ddatblygiad sglefrfyrddio.

Yn ogystal â dangos ei waith cynnar, mae Phillips wedi cael ei gomisiynu i greu cyfres newydd o ffotograffau sy’n arddangos sglefrfyrddio cyfoes yn Abertawe, a fydd yn dod yn rhan o gasgliad parhaol yr Oriel. Mae’r comisiynau newydd yn rhan o “Artistiaid Ydym Oll” a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gyfres hon yn rhoi sylw i fywiogrwydd ac amrywiaeth y gymuned sglefrfyrddio leol, gan atgyfnerthu arwyddocâd diwylliannol sglefrfyrddio yn Abertawe.

Dyddiad
13 MED 2024 - 05 ION 2025
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery
Visit website