fbpx
Cymerwch gip ar beth sy'n digwydd ym Mae Abertawe...
Rhagor o wybodaeth...

 

Prynu tocynnau

Nod Sioe Gŵyr yw bod yn sioe amaethyddol draddodiadol iawn ac yn gyfle i ffermwyr lleol ddod at ei gilydd a dod ag enghreifftiau o’u stoc orau, gan gynnwys gwartheg, defaid, moch a pherchyll. Mae’r ffermwyr lleol hefyd yn cyflwyno samplau o’u cnydau ac yn cystadlu i weld pwy sy’n cynhyrchu’r glaswelltir gorau. Uwchlaw popeth, mae’n ein hatgoffa pa mor bwysig yw ffermio i’n hardal.

Un o’r digwyddiadau cyfranogi mwyaf poblogaidd yw’r sioe gŵn unigryw gyda 13 categori gwahanol y gallwch gofrestru eich ci ar eu cyfer.

Mae ceffylau bob amser yn boblogaidd iawn yn y sioe ac yn denu cystadleuaeth o safon uchel iawn. Mae gan yr amserlen geffylau dros 90 o ddosbarthiadau ac mae enghreifftiau gwych bob amser o bron bob math o frîd, mawr a bach. Mae’r gystadleuaeth yn y cylchoedd ceffylau yn dechrau am 9am.

Yn y pebyll mawr gwyn sydd wedi’u gwasgaru o gwmpas cae’r castell fe welwch arddwriaeth gyda threfnu blodau artistig a’r babell goginio agored lle cymharir canlyniadau pobi cartref. Mae’r adran gelf a chrefft bob amser yn denu nifer uchel o gynigion o safon ac mae adran y plant bob amser yn un i gadw llygad arni!

Yn y babell fêl a gwenyn mae modd i chi wisgo siwt addas ar gyfer edrych yn fanwl ar gwch gwenyn.

Mae digon o gyfleoedd i weld a phrynu amrywiaeth o grefftau traddodiadol, ynghyd â’r pebyll bwyd hynod boblogaidd gyda digon o samplau i’w blasu. Os ydych chi’n mwynhau cefn gwlad, dewch i ymuno â ni am ddiwrnod mas gwych.

 

Mwy o wybodaeth

Dyddiad
04 AWS 2024
Lleoliad
SA3 1LN