fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

 
Ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf bydd canol dinas Abertawe’n cynnal ei hail Sioe Deithiol Aer Glân flynyddol wedi’i chefnogi gan BID Abertawe a Chalon Fawr Abertawe.

Mae dyddiau Ernie a’i fan laeth wedi hen fynd, ac mae dros 150,000 o gerbydau trydan ar y ffordd erbyn hyn – a bydd y Sioe Deithiol Aer Glân yn dod ag amrywiaeth eang o’r cerbydau hyn i ganol ein dinas.

Cynhelir llwyth o weithgareddau yn Sgwâr y Castell rhwng 10am a 4pm, a bydd cerbydau gan Kia, Mitsubishi a Nissan ar gael i’w gweld hefyd, yn ogystal â cherbydau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Ond nid yw cynaladwyedd yn ymwneud â cheir trydan yn unig – bydd digon o adloniant rhyngweithiol ar gael i’r teulu cyfan hefyd, gan gynnwys y cyfle i greu eich tanwydd hydrogen eich hunan, cyfle i wneud llyfnffrwyth iachus a chyfle i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau gwyddonol, diolch i Oriel Science.

Drwy gydol y dydd bydd Tîm ParkLives Cyngor Abertawe ar gael i gynnig gweithgareddau chwaraeon er mwyn sicrhau bod eich ysgyfaint yn gwneud y mwyaf o awyr iach y môr – gan gynnwys Parkour.

Ac ar gyfer 2018, bydd y Sioe Deithiol Aer Glân yn croesawu gwestai arbennig iawn…. Bumblebee y Transformer! Bydd y cawr annwyl hwn, sydd dros 10 troedfedd o uchder, yn Sgwâr y Castell am 11.30am, 12.30pm, 1.30pm a 2.30pm, a bydd yn arddangos ei symudiad dawns enwog – Y Robot! Sicrhewch eich bod yn cofio’ch camera a rhannwch eich hunluniau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r stwnshnod #SioeDeithiolAerGlân.

Gyda channoedd o drysorau cudd ac enwau’r stryd fawr, mae treulio prynhawn dydd Sadwrn heulog yng nghanol y ddinas hefyd yn rhoi’r cyfle delfrydol i chi gefnogi busnesau canol y ddinas – felly beth am dreulio’r diwrnod cyfan yma gan sicrhau bod gennych ddigon o egni trwy fynd am goffi yn un o gaffis annibynnol ein dinas?

 
Sgwâr y Castell:
 

Dyddiad
28 GOR 2018
Lleoliad
Castle Square