Yn anffodus, ni fyddwn yn cynnal ein digwyddiad hynod boblogaidd eleni o ganlyniad i bandemig Coronafeirws. Fodd bynnag, yn hytrach nag anwybyddu’r bwlch yn y calendr, eleni rydym yn bwriadu dathlu mewn ffordd ychydig yn wahanol!
Felly, dydd Sadwrn 4 Gorffennafrhwng 11am a 5pm, gallwch ymuno â ni ar ein tudalen Facebook swyddogol lle byddwn yn cyflwyno Sioe Awyr Cymru #Gartref – Dathliad Digidol!
Byddwn yn arddangos yr uchafbwyntiau gorau a chyfweliadau arbennig y timau arddangos amrywiol sydd wedi perfformio ym Mae Abertawe, gan gynnwys y Chinook, y Tutor, Hediad Coffa Brwydr Prydain, y Tigers yn ogystal â’r Red Arrows gwych!