fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Comedi gerddorol ddigymell ar ei gorau – ar ei ffordd i Theatr y Grand Abertawe’n syth o’r West End!

Mae Showstopper, a fu’n hynod boblogaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin am 11 mlynedd, sy’n gyfres ar BBC Radio 4, yn sioe arobryn yn y West End ac yn gynhyrchiad a enillodd Wobr Olivier, wedi hudo cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’i chymysgedd dyfeisgar o gomedi, theatr gerdd a’i natur ddigymell.

Bydd comedi gerddorol newydd sbon yn cael ei chreu o’r dechrau ym mhob perfformiad o’r sioe arobryn hon wrth i awgrymiadau gan yn gynulleidfa gael eu trawsnewid yn gynyrchiadau sy’n llawn caneuon a dawnsio â chanlyniadau digrif dros ben. Bydd y perfformwyr gwefreiddiol hyn yn sicr o greu argraff fawr arnoch wrth iddynt berfformio sioe sy’n llawn drama, coreograffi cyffrous a chaneuon cofiadwy – â’r cyfan wedi’i ddyfeisio yn y fan a’r lle!

Felly os hoffech glywed ychydig o Rodgers a Hammerstein ar olwyn fawr neu Sondheim ar fynydd Everest – awgrymwch hynny a bydd cast Showstopper yn ei ganu!

★★★★★ ‘So polished, it defies belief.’ Daily Telegraph
★★★★★ ‘Had me weeping with laughter… you absolutely have to go.’ Mail on Sunday
★★★★★ ‘Achingly funny… Worth seeing again and again.’ Time Out Critics’ Choice

Dyddiad
08 TACH 2019
Lleoliad
Swansea Grand Theatre