fbpx
Joio'r Gwanwyn yn Abertawe!
Rhagor o wybodaeth

Mae Escape Records yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Sam Ryder, a gyrhaeddodd frig y siartiau yn y DU ar ôl dod i’r amlwg yn 2022, yn dod i Barc Singleton, Abertawe ar 18 Awst.

Ar ôl ei berfformiad yn cynrychioli’r DU yn Eurovision y llynedd gyda’i gân Space Man, llwyddodd y canwr-gyfansoddwr Sam Ryder i gael y sgôr uchaf erioed fel ymgeisydd Eurovision o’r DU, gan ddod yn ail i Ukraine – mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyffrous iawn i Sam! Mae wedi perfformio yn y gwobrau Brit, yng nghyngerdd y Jiwbilî Blatinwm ac ar ei sioe ‘Sam Ryder Rocks New Year’s Eve’; wedi teithio ar draws Ewrop; wedi cyhoeddi taith o’r DU ac mae bellach yn dod i Abertawe.

Gyda gwobr Marcel Bezençon Press, cân sy’n cael ei chwarae’n rheolaidd ar BBC Radio 1 a 2 ac albwm a gyrhaeddodd frig y siartiau, ‘There’s Nothing But Space Man’ ar ei gyfrif, nid yw’r enwebai gwobr Brit Sam Ryder yn un i’w golli. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer ei daith o’r DU yn 2023 mewn dim o dro, ac mae’r seren TikTok eisoes wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer ei sioe yn y Neuadd Fawr yng Nghaerdydd y gwanwyn hwn.

Ar ôl dod yn enwog ar TikTok yn ystod cyfyngiadau symud cyntaf 2020, llwyddodd Ryder i ddal sylw cefnogwyr enwog yn gyflym iawn (Justin Bieber, Sia, Alicia Keys ac Elton John) – gyda chasgliadau o’i fideos yn ymddangos ar The Ellen Show, Newsbeat y BBC a mwy. Wrth i nifer y fideos dyfu, tyfodd nifer ei gefnogwyr hefyd – mae ganddo dros 17 miliwn o ddilynwyr ar ei gyfryngau cymdeithasol ac mae wedi ennill y wobr artist mwyaf poblogaidd y DU ar TikTok am ddwy flynedd yn olynol.

Tocynnau – Escape Records

Dyddiad
18 AWS 2023
Lleoliad
Singleton Park

18 AWS 2023

Sam Ryder