Cyflwynir gan Tall Stories, yn seiliedig ar y llyfr hynod boblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler
Iggety ziggety zaggety zoom!
Neidiwch ar gefn yr ysgubell gyda’r wrach a’i chath yn addasiad difyr Tall Stories o Wwsh ar y Brwsh, y llyfr lluniau poblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler.
Mae’r wrach a’i chath yn teithio ar eu hysgubell pan maen nhw’n codi ambell fodiwr wrth fynd heibio – ci cyfeillgar, aderyn gwyrdd arbennig a broga brysiog. Ond does dim lle i bump ar yr ysgubell hon, a – CRAC – mae’n torri’n ddau… ar yr un pryd ag y mae’r ddraig lwglyd yn ymddangos!
A fydd lle byth ar y brwsh i bawb? Cewch yr ateb yn y sioe hudol a enwebwyd am wobr Olivier i bawb sy’n 3 oed ac yn hŷn.
Llinell hawlfraint:: Wwsh ar y Brwsh © Julia Donaldson ac Axel Scheffler 2002 – Llyfrau Plant Macmillan
Clod i’r awdur: Yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler