Llun: Jonas Kaufmann ©Gregor Hohenberg
Corws yr Opera Frenhinol
Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol
Mae unig opera Beethoven yn gampwaith, ac yn stori o risg a goruchafiaeth. Yn y cynhyrchiad newydd hwn, dan arweiniad Antonio Pappano, mae Jonas Kaufmann yn chwarae’r carcharor gwleidyddol Florestan, a Lise Davidsen ei wraig Leonore (wedi’i chuddwisgo fel ‘Fidelio’), sy’n bwriadu ei achub yn feiddgar. Mewn gwrthgyferbyniaeth gref, ceir cynhwysion dirgelwch domestig, cariad na ellir ei atal a chreulondeb cyfundrefn ormesol. Mae’r gerddoriaeth yn rhagorol drwyddi draw, ac mae’n cynnwys Pedwarawd Act I, Cytgan y Carcharorion a llef angerddol Florestan yn Act II yn y tywyllwch a gweledigaeth o obaith. Mae llwyfannu newydd Tobias Kratzer yn dod â realiti tywyll ‘Arswyd’ y Chwyldro Ffrengig ynghyd â’n hamser ni i amlygu neges ysbrydoledig Fidelio o ddynoliaeth a rennir.
Hyd y sioe: tua 2 awr 30 munud