Abertawe’r 1920au; mae jazz a gwirodydd yn dra ffasiynol.
Mae dau griw cystadleuol, Criw’r Mwmbwls a Taffia Townhill yn rhannu Caffi Jazz Rosalie, gyda’r ddealltwriaeth y bydd y ddau griw’n aros ar eu hochr nhw o’r bar.
Fodd bynnag, pan mae Tywysoges o’r Mwmbwls a Dan Dansierus o Townhill yn syrthio mewn cariad, mae’r elyniaeth rhwng y ddau griw’n waeth fyth.
A fydd y ddau griw’n gallu chwalu’r rhwystrau sydd rhyngddynt? A fydd Tywysoges a Dan Dansierus yn cael bod gyda’i gilydd? Dyma stori llawn cyhuddiadau, drwgdybiaeth, lladrad, celwyddau, twyll, maddeuant, brad, ffyddlondeb, cyfeillgarwch, cariad…. a jazz.