fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Paratowch at guro canser wrth i Ras am Oes Ymchwil Canser y DU ddychwelyd i Abertawe!

Cyfres o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer ymchwil i’r 200 fath o ganser yw Ras am Oes Ymchwil Canser y DU. Bydd miloedd o bobl yn uno gydag un diben. Dod ynghyd. Codi arian. Curo canser.

Nid digwyddiadau cyffredin mo’r rhain. Mae pobl o bob oed, gallu a chefndir yn cymryd rhan. Does dim pwysau i orffen mewn amser penodol. Diben y Ras am Oes yw uno yn y frwydr yn erbyn canser – ni waeth beth yw’ch cyflymdra.

Mae llwybr Ras am Oes Abertawe’n mynd â chi ar hyd Heol Ystumllwynarth, ar lwybrau golygfaol y glannau ac o gwmpas y Marina. Llwybr hyfryd a gweddol wastad! Mae’r llinell gychwyn ar y lawnt o flaen Amgueddfa Abertawe. dylech gyrraedd 1 awr cyn yr amser dechrau, a pheidiwch ag anghofio dod â’ch ffrindiau a’u teulu gyda chi i’ch cefnogi – gallant fynd am dro o gwmpas y stondinau a fydd yn darparu adloniant a lluniaeth wrth aros i’ch croesawu ar y llinell derfyn!