fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Arddangosfa deithiol gan yr Amgueddfa Brydeinig

Mae Oriel Glynn Vivian wedi bod yn rhan o brosiect cychwynnol yr Amgueddfa Brydeinig i gyd-guradu arddangosfa gydag amgueddfeydd partner o gwmpas y DU i arddangos celfweithiau cyfoes o’i chasgliad Printiau a Darluniau ac yna mynd â hwy ar daith.

Bydd ‘Pushing paper: contemporary drawing from 1970 to now‘ yn dangos sut mae artistiaid yn arbrofi â phŵer papur i fynegi’u syniadau, gan wthio’r cyfrwng i gyfeiriadau gwahanol. Bydd yn amlygu ehangder ac ansawdd casgliad celf fodern yr amgueddfa, yn ogystal â’i gwmpas byd-eang.

Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys 56 o gelfweithiau, yn arddangos amrywiaeth drawiadol o ddarluniau cyfoes dros y 50 mlynedd diwethaf, gyda gwaith graffig gan artistiaid megis David Hockney, Rachel Whiteread, Sol LeWitt, Anish Kapoor, Tracey Emin a Grayson Perry, yn ogystal â gwaith cyffrous gan artistiaid newydd megis Hamid Sulaiman a Rachel Duckhouse. Bydd nifer o’r celfweithiau’n cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf, gan gynnwys gwaith gan Gwen Hardie, Jonathan Callan a Jan Vanriet.

Pushing paper‘ yw un o arddangosfeydd cyntaf yr Amgueddfa Brydeinig i ganolbwyntio’n arbennig ar arlunio o’r 1970au hyd heddiw. Mae arlunio ymhlith y mathau hynaf o greadigrwydd dynol ac mae’n dod yn boblogaidd unwaith eto wrth i artistiaid ddechrau dewis y cyfrwng yn gynyddol fel ffordd o archwilio’r byd modern, gyda phynciau’n amrywio o archwilio rhyw a gweithrediaeth wleidyddol i gwestiynau o berthyn a rhywioldeb dynol. Yn yr arddangosfa hon, rhennir y gwaith yn feysydd thematig lle’r archwilir hunaniaeth, lle a gofod, amser ac atgofion, pŵer a phrotest, a systemau a phrosesau. Ei nod yw tynnu sylw at gysylltiadau’r artistiaid trwy gyfrwng arlunio, er gwaethaf eu lleoliadau, eu harddulliau a’u cyfnodau gwahanol ac archwilio paham y mae arlunio’n parhau i ffynnu a datblygu fel dull o fynegiant artistig.

Bydd detholiad o waith o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith o’r Amgueddfa Brydeinig.

Fe’i cefnogir yn hael gan Sefydliad Celf Bridget Riley

Dyddiad
19 MED - 29 TACH
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery