Mae Cwpan y Byd Dynion FIFA 2022 yn nesáu, ac mae’n bleser gan Barc Cefnogwyr Abertawe eich gwahodd chi i Barc Singleton ar gyfer digwyddiad heb ei ail!
Bydd Parc Cefnogwyr Abertawe’n dangos POB gêm Cwpan y Byd yn ei babell fawr i 3,000 o bobl sydd wedi’i thwymo ym Mharc Singleton. Mae Parc Cefnogwyr Abertawe’n darparu cyfleusterau o safon uchel ac awyrgylch unigryw mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel – perffaith ar gyfer dathlu gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr fel ei gilydd!
Bydd cyflenwyr bwyd lleol blasus, diodydd o’u bar llawn stoc, cerddoriaeth fyw, DJ, croesawyr ar ddiwrnod y gêm, enwogion pêl-droed a llawer, llawer mwy.
Mae mynediad i’r lleoliad am ddim, yn amodol ar le. Yma, mae egwyddor y cyntaf i’r felin yn berthnasol. Mae rhai mannau yn cael eu cadw ar gyfer pobl sy’n galw heibio. Gellir archebu bwyd a diod o’r bar. Os ydych am gadw bwrdd yn y sesiwn galw heibio, rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd yn gynnar ar ddiwrnod y gêm.
Wrth gyrraedd: Dilynwch yr arwyddion mynediad. Mae’n rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Mae’n bosib cadw bwrdd ar gyfer hyd at 8 person. Wrth gadw bwrdd, mae’n rhaid i chi archebu pecyn diodydd a fydd yn cael ei ddosbarthu i’ch bwrdd ar ôl cyrraedd. Gellir archebu diodydd eraill ar ein ap a gellir prynu bwyd o stondinau bwyd lleol sy’n cynnig gwahanol fathau o fwyd.
Cymerwch gip ar y gemau a chadwch fwrdd
Ar gyfer pob digwyddiad, rydym yn llenwi byrddau gyda gwesteion sy’n galw heibio, os nad yw’r bwrdd yn llawn (8 lle) ar ddechrau’r gêm.
Wrth gyrraedd: Dilynwch yr arwyddion wrth y fynedfa sydd wedi’i nodi «Ar Gadw». Mae’n rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Ddim yn siŵr ble fydd parti Nadolig eleni yn cael ei gynnal? Neu’n mynd allan gyda ffrindiau, teulu neu am noson mas gorfforaethol? Rydym yn falch iawn o roi’r cyfle i chi brofi cinio bys a bawd poeth ac oer hyfryd ynghyd â’n hawyrgylch pêl-droed anhygoel a chwrdd a chyfarch enwogion pêl-droed.
Mwynhewch ein seddi a’n cyfleusterau gorau ochr yn ochr â’ch bwrdd preifat yn yr ardal VIP.
P’un a ydych am alw heibio gyda mynediad AM DDIM ar sail y cyntaf i’r felin, neu os byddai’n well gennych gadw’ch bwrdd a’ch pecyn diodydd wrth gyrraedd – mae gan Parc y Cefnogwyr Abertawe ddigon ar eich cyfer.