Bydd y digwyddiad bywiog hwn yn dod â phedair cymuned sy’n gysylltiedig â’r ychwanegiadau mwyaf newydd at y Gemau Olympaidd at ei gilydd – sglefrfyrddwyr, syrffwyr, dringwyr a bregddawnswyr – fel rhan o ddathliad gwefreiddiol o symudiad a rhythm.
Gweithgareddau cyhoeddus rhyngweithiol: Rhwng 1pm a 2pm a rhwng 4pm a 5pm, gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous sydd wedi’u hysbrydoli gan themâu’r digwyddiad. P’un a ydych chi’n sglefrfyrddiwr, yn syrffiwr, yn ddringwr neu’n fregddawnsiwr, bydd cyfleoedd i bawb gymryd rhan a phrofi’r cyfuniad o ddawns a chwaraeon yn uniongyrchol.
Perfformiad ymdrochol: Cynhelir y prif ddigwyddiad rhwng 2pm a 4pm, lle bydd pedwar llwyfan uwch yn creu amgylchedd ymdrochol ym Mharc yr Amgueddfa, Abertawe, a bydd yn gorffen gyda pharti ar thema gŵyl liwiau. Bydd y Brodyr Matsena a’u hensemble talentog yn mynd â chi ar daith, gan gyfuno hanfod y pedair camp hyn drwy bŵer dawns, rhythm a mynegiant artistig.
Pontio diwylliannol: Drwy adlewyrchu treftadaeth Affricanaidd a Chymreig y Brodyr Matsena, bydd y perfformiad yn cysylltu diwylliannau amrywiol a disgyblaethau artistig, gan greu naratif pwerus sy’n berthnasol i bawb.
Mae Olympic Fusion yn fwy na pherfformiad yn unig. Mae’n brofiad cymunedol sy’n dathlu’r ychwanegiadau mwyaf newydd at y Gemau Olympaidd a grym y celfyddydau wrth ddod â chymunedau ynghyd. Peidiwch â cholli’r digwyddiad hwn sy’n addas i deuluoedd sy’n addo swyno ac ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oed.
Dewch i fod yn rhan o’r dathliad bythgofiadwy hwn!
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gomisiynu gan Brosiect Angori Twristiaeth Ddiwylliannol Cyngor Abertawe a’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.