Yn galw ar holl Glybiau Treiathlon Abertawe!
Hoffai IRONMAN eich gwahodd i’w ail noson Clybiau Treiathlon flynyddol yn Adeilad IQ (PCYDDS), Kings Road, Abertawe SA1 8EW. Bydd y noson yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth werthfawr, llawn mewnwelediad i’ch paratoi ar gyfer ras IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul 16 Gorffennaf. Dyma’ch cyfle i gael argymhellion gan yr athletwr proffesiynol Andrew Horsfall-Turner, arweiniad gan yr hyfforddwr IRONMAN Chris Hill a gwybodaeth am faeth gan dîm IRONMAN. Dyma’r ffordd berffaith o’ch paratoi i gyflawni eich nodau a rhoi cynnig ar IRONMAN 70.3 Abertawe eleni.