Mae Waterloo Stores yn dathlu doniau lleol drwy gynnal perfformiadau gan gerddorion lleol o bob genre yn ystod eu sesiynau Nos Iau Meic Agored. Fe’u cynhelir o 7.30pm ac anogir perfformwyr i berfformio ar y llwyfan ac arddangos eu doniau! Mae croeso i bawb ymuno a dawnsio ar hyd y nos!
Tafarn teuluol yw Waterloo Stores. Maent yn sefydliad cymunedol a ailwampiwyd yn ddiweddar sy’n ceisio cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd, gan gynnwys cwrw casgen, cyrfau traddodiadol, seidrau a chwrw golau. Yn ogystal â’r jin, y fodca, y rỳm a’r chwisgi diweddaraf, a llawer mwy! Oes well gennych goffi? Dewch i archwilio’u hamrywiaeth wych o goffi drwy fynd ar eich taith goffi eich hun. Maent yn cynnig croeso cynnes i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, a bydd aelodau ymroddedig o’r tîm yn sicrhau profiad bythgofiadwy i bawb. Maent yn edrych ymlaen at eich gweld chi’n fuan!
Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Waterloo Stores yma