fbpx
Sioe Awyr Cymru Gorffenaf 2-3
Rhagor o wybodaeth

Gwener 29 Ebrill 1pm – 2pm

Mae Darganfod Dawns yn berfformiad rhyngweithiol, hamddenol a llawn hwyl. Rhowch gynnig ar ddawnsio, yna gwyliwch y dawnswyr proffesiynol wrth eu gwaith.

Mae’r profiad awr o hyd yn berffaith ar gyfer ysgolion a theuluoedd.

Cewch gyfle i gynhesu’r corff gyda’n dawnswyr o’ch sedd, gofyn cwestiynau a dysgu rhai symudiadau o’r sioe.

Byddwch hefyd yn gwylio perfformiad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ynghylch gemau maes chwarae, ‘Ludo’.

Mae’n brofiad creadigol a llon. Mae pobl ifanc yn gadael yn llawn brwdfrydedd, wedi eu hysbrydoli ac yn fwy hyderus a chreadigol.

Tocynnau

  • £3

Prynu tocynnau ar-lein neu ffoniwch swyddfa docynnau Taliesin ar 01792 602060 i archebu.

Dyddiad
29 EBR 2022
Lleoliad
Taliesin Arts Centre