fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

 
Mae Nawr yr Arwr yn berfformiad mawr, epig ar safle penodol sy’n plethu straeon am wrthdaro drwy ymosodiad milwrol, parti priodas aflafar, dawns brotest a gwylnos hynafol. Bydd y profiad theatrig hwn yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy dri naratif rhyfel; o draeth hardd Bae Abertawe i ddarganfod trysorau artistig yn Neuadd Brangwyn eiconig y ddinas.

Bydd Marc Rees, yr artist rhyngddisgyblaethol digyffelyb o Gymru, yn trawsffurfio dinas Abertawe ar gyfer y pum niwrnod mewn cynhyrchiad dwy awr a hanner y gellir ymgolli ynddo, gan weithio gyda thîm creadigol nodedig sy’n cynnwys Jóhann Jóhannsson, Owen Sheers a Polyphony.

Yng Nghymru, y prosiect uchelgeisiol hwn fydd uchafbwynt y rhaglen ar gyfer blwyddyn derfynol 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Nawr yr Arwr fydd digwyddiad agoriadol Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.

www.nowthehero.wales
www.nawryrarwr.cymru

Dyddiad
25-29 MED
Lleoliad
Various - Swansea