fbpx
Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure
Enwebwch nawr

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023, drysau’n agor am 4pm

Gyda gwesteion arbennig Rodger Sanchez / Jean Jacques Smoothie / K-Klass / Big Al

Sioe gerddorfaol sy’n dathlu’r anthemau dawns mwyaf poblogaidd yn dod i Abertawe’r haf nesaf!

  • Gates 4pm
  • Big Al 4pm
  • Jean Jacques Smoothie 5pm
  • K-Klass 6pm
  • Roger Sanchez 7.15pm
  • Ministry of Sound Classical 9pm

gwybodaeth a theithio

Cwestiynau Cyffredin

Y caneuon dawns mwyaf yn cael eu hailddychmygu gyda cherddorfa!

Nid set DJ yw hon! Mae Ministry of Sound yn defnyddio’r caneuon gorau o hanes cerddoriaeth ddawns ac yn eu hail-greu mewn perfformiad cerddorfaol anhygoel gan gerddorfa wych â 30 o offerynnau.

Bydd tir Parc Singleton yn darparu’r cefndir perffaith ar gyfer sioe gerddoriaeth fyw anhygoel wrth i Ministry of Sound Classical ddod i Abertawe’r haf nesaf ar 22 Gorffennaf 2023.

Does dim un clwb yn fwy eiconig na Ministry of Sound. Roedd y lleoliad enwog yn Llundain wrth wraidd byd cerddoriaeth ‘house’ y 1990au ac mae’n un o’r brandiau byd-eang mwyaf ym myd
cerddoriaeth ddawns.

Yn sioe Ministry of Sound Classical caiff eich hoff ganeuon dawns eu haildrefnu, eu hailddychmygu a’u hail-fyw gyda cherddorfa wych â 30 o offerynnau, DJs o’r radd flaenaf, cantorion arbennig a phrofiad sain a golau hollol unigryw.

Tocynnau

Tocynnau ar werth ar ôl 4pm ddydd Iau 20 Gorffennaf drwy Gigantic.com yn unig.

Prynu tocynnau (Gigantic.com)

Cyfyngiad oed  – 16+ RHAID I BLANT DAN 16 OED FOD YNG NGHWMNI OEDOLYN 18+ (3 PHERSON DAN 18 OED I 1 OEDOLYN)

Hygyrchedd

Bydd llwyfan gwylio hygyrch. Gellir archebu tocynnau ar gyfer hwnnw yma.

Tocynnau Orchard Ts & Cs