fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Milkshake! Mae Monkey yn ôl ac yn edrych ymlaen at gyflwyno sioe drawiadol NEWYDD i chi i gyd. Bydd rhai o’i hoff ffrindiau o Milkshake! a dau o’r cyflwynwyr yn ymuno ag e’ i greu’r sioe fwyaf syfrdanol rydych chi erioed wedi’i gweld!

Ymunwch â Paddington, Daisy ac Ollie, Milo, Noddy, Pip a Posy, Blue’s Clues & You! ac wrth gwrs Milkshake! Monkey am amser bythgofiadwy i’r teulu yn sioe gerdd Milkshake Monkey!

Dysgwch y caneuon a’r dawnsfeydd anhygoel gyda’ch hoff ffrindiau o Milkshake! a gwyliwch wrth i’r goleuadau, y gwisgoedd a’r llwyfan ddod â Milkshake yn fyw! Gyda ffrindiau gwych Milkshake, mae unrhyw beth yn bosib.

Mae’r sioe newydd sbon hon yn cynnwys digonedd o chwerthin, rhyngweithio â’r gynulleidfa a llawer o hwyl i gael pawb ar ei draed! Mae’n sioe deulu na ddylech ei cholli!

*Cynhyrchwyd gan Mark Thompson Productions drwy drefniant ac mewn partneriaeth â Channel 5 Broadcasting.

Dyddiad
11 MEH 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre