Digwyddiad thema Nos Galan Gaeaf i’r teulu, wedi’i arwain gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Bydd llwybr tywys arswydus yn eich arwain o amgylch y Castell bwganllyd, gan chwilio am ysbrydion ac ellyllon (cyfeillgar) ar hyd y ffordd!
Caiff gwesteion eu harwain trwy fynwent y castell, i ddyfnderoedd y castell lle mae ysbrydion ac ellyllon yn cuddio mewn ystafelloedd a choridorau. Dewch i brofi’r goruwchnaturiol a gwrando ar stori arswydus neu ddwy. Efallai byddwch hyd yn oed yn gweld yr Arglwyddes Wen!